Bydd yn rhaid i arweinydd nesaf Llafur Cymru fod yn barod i “adnewyddu ac adfywio’r” blaid wedi 20 mlynedd o fod mewn grym yng Nghymru, meddai sylwebydd gwleidyddol.
Ac yn ôl yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd, mae penderfyniad Carwyn Jones i gamu o’i rôl yn Brif Weinidog yn debygol o ddod a “rhyddhad” i nifer yn y Blaid Lafur yng Nghymru.
Mae’r blaid wedi wynebu “cyfnod anodd a dwys” ac mi fydd sawl Aelod Cynulliad Llafur yn croesawu’r newyddion, meddai Laura McAllister. Ond does dim disgwyl i Carwyn Jones adael dan gwmwl, meddai.
“Yn amlwg, mae’r chwe mis diwethaf wedi bod ymhlith y rhai anoddaf yng ngyrfa Carwyn Jones yn ei rôl fel Prif Weinidog,” meddai wrth golwg360.
“Ond dros gyfnod o amser, fe ddaw dadansoddiad mwy mesuredig o’i gyfraniad fel Prif Weinidog. Mae hefyd, wrth gwrs, amser i wneud tipyn rhagor – er enghraifft, sicrhau Senedd effeithiol a all ddarparu i Gymru.”
Pwy fydd yr olynydd?
Mae’n “rhy gynnar” i ddyfalu â hyder, pwy fydd yn ymgeisio am swydd y Prif Weinidog, meddai Laura McAllister, ond mae i weld yn cytuno â’r dyfalu sydd wedi bod hyd yn hyn.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yw’r ffefryn i olynu Carwyn Jones ar hyn o bryd, er bod sibrydion am sawl aelod cabinet arall ar goridorau’r Bae.
Wrth siarad â golwg360 dywedodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, ei bod yn rhy gynnar i bobol ymuno â’r “gystadleuaeth” am y rôl.
“Dw i’n credu bod yr enwau sydd wedi’u cynnig gan bawb hyd yma, mwy na thebyg yn gywir,” meddai Laura McAllister. “Mae’n ddigon posib daw mwy i’r fei.”
“Ond dw i’n amau’n fawr y byddai [Ken] Skates, [Vaughan] Gething a [Jeremy] Miles, oll ar y papur pleidleisio ochr yn ochr.”