Mae pennaeth Facebook wedi cyfaddef bod ei gwmni “heb wneud digon” i ddiogelu manylion eu defnyddwyr ac atal pobol rhag cymryd mantais o’r safle.
Daeth sylw Mark Zuckerberg yn ystod sesiwn â Chyngres yr Unol Daleithiau, lle bu’n ateb cwestiynau yn gysylltiedig â sgandal Cambridge Analytica – cwmni wnaeth, o bosib, cael gafael ar ddata miliynau.
“Fy nghamgymeriad i oedd hynna, a dw i’n ymddiheuro,” meddai. “Fi dechreuodd Facebook, fi sy’n rhedeg y cwmni, a fi sy’n gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd yna.”
Bellach mae’r pennaeth wedi addo ymchwilio i ddeunydd ar y wefan a allai fod wedi galluogi cwmnïau eraill i gipio manylion defnyddwyr heb eu caniatâd.
“Ras arfau”
Pwnc arall wnaeth godi yn y sesiwn oedd ‘newyddion ffug’, gyda Mark Zuckerberg yn dweud ei fod yn “difaru” peidio mynd i’r afael a’r broblem yn ystod etholiad arlywyddol 2016.
Dywedodd bod ymgyrch ffug wybodaeth Rwsia wedi dechrau “tua’r adeg yna”, a bod y cwmni bellach wedi datblygu meddalwedd i fynd i’r afael a hynny.
“Mae yna bobol yn Rwsia sy’n cael eu cyflogi i danseilio ein sustemau … felly ras arfau yw hyn,” meddai.