Mae swyddogion Gemau’r Gymanwlad wedi codi pryderon am bum athletwr o Gameroon sydd wedi diflannu ar yr Arfordir Aur.
Mae’n debyg bod y codwyr pwysau, Olivier Matam, Arcangeline Foudji Sonkbou, Petit David Minkoumba; a’r bocswyr, Ndzie Tsoye, Simplice Fotsala; bellach ar goll.
Fe ddiflannodd athletwyr o Sierra Leone yn ystod Gemau’r Gymanwlad Melbourne 2006 gyda’r nod o aros yn Awstralia yn barhaol.
A chred rhai yw mai ymgais arall yw hyn i ymgartrefu yn y wlad. Methodd yr athletwyr a chymryd rhan yn eu cystadlaethau.
“Mae eu fisas yn ddilys o hyd, ac mae ganddyn nhw’r hawl i deithio o gwmpas y lle yn ddirwystr,” meddai David Grevemberg, Prif Weithredwr Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad.
“Ar hyn o bryd rydym yn pryderu am ddiogelwch ein hathletwyr ac rydym yn trin hyn yn ddifrifol.
“Rydym yn cadw llygad ar y sefyllfa ynghyd â thîm Cameroon.”