Mae adroddiadau bod fan wedi cael ei gyrru i ganol torf o bobol yn ninas Münster yn yr Almaen, gan ladd nifer o bobol.
Dywedodd llefarydd bod lle i gredu bod y dyn sydd wedi’i amau hefyd wedi marw.
Cafodd tua 30 o bobol eu hanafu yng nghanol y ddinas.
Mae’r heddlu wedi gofyn i bobol gadw draw o’r safle wrth i’r ymchwiliad barhau.