Fe fydd talaith Arizona yn darparu 150 o filwyr i warchod y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yr wythnos nesaf.
Daeth y cyhoeddiad gan y Llywodraethwr Doug Ducey ar wefan gymdeithasol Twitter.
Mae disgwyl rhagor o fanylion maes o law.
Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump ddweud ei fod yn dymuno rhoi milwyr ar y ffin.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth fydd eu rôl ond yn y gorffennol, mae’r fath filwyr wedi bod yn gwarchod y ffin, cefnogi adeiladu’r wal a thasgau gweinyddol eraill.