Mae naw o weithwyr coedwigaeth wedi marw yn Rwmania, wedi i’r fan yr oedden nhw’n teithio ynddi blymio i mewn i afon yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Fe ddigwyddodd y ddamwain pan gollodd gyrrwr y fan reolaeth ar y cerbyd. Y gred ydi y gallai un o’r teiars fod wedi ffrwydro.
Fe gafodd saith o bobol eu lladd ar ol iddyn nhw fynd yn sownd yn y fan, ac fe gafodd corff dau arall eu tynnu o ddyfroedd aforn Bistrita. Dim ond 17 oed oedd yr ieuengaf i gael ei ladd.
Mae awdurdodau Rwmania wedi cadarnhau fod y gweithwyr i gyd yn dod o orllewin y wlad, a’u bod ar eu ffordd adref i ddathlu Pasg yr eglwys Orthodocs. Doedd y fan ddim wedi’i gwneud i gario pobol.