Mi fydd Arlywydd yr Eidal, Sergio Mattarella yn dechrau trafodaethau swyddogol heddiw, er mwyn ceisio cael pleidiau’r senedd ynghyd i ffurfio llywodraeth glymbleidiol i’r wlad.

Yn yr etholiad cyffredinol ar Fawrth 4, fe fethodd yr un blaid ag ennill digon o gefnogaeth er mwyn ffurfio llywodraeth lawn.

Mudiad y 5-Star oedd y blaid a enillodd y nifer mwyaf o bleidleisiau, gyda’r glymblaid asgell-dde ganolig, sy’n cael ei arwain gan blaid y League, syn wrthwynebus i fewnfudo, â gafael ar y nifer mwyaf o seddi.

Er hyn, dyw’r un o’r pleidiau mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar eu pennau eu hun.

Mae arweinydd y 5-Star, Luigi di Maio, wedi dweud ei fod yn barod i ffurfio llywodraeth gyda naill ai’r League neu’r Blaid Ddemocrataidd – a gafodd yr etholiad gwaethaf yn ei hanes.

Ond mae wedi mynnu na fydd yn cydweithio gyda phlaid y Froza Italia, wrth i’w harweinydd, y cyn-Brif Weinidog, Silvio Berlusconi, wynebu cyhuddiadau o dwyll.