Mae 24 o bobol wedi’u hanafu wedi i fws yn cario ymwelwyr o Dde Corea fod mewn gwrthdrawiad ger dinas Salzburg yn Awstria.
Mae’r gyrrwr, sy’n hanu o Groatia, ac un ymwelydd mewn cyflwr difrifol wedi’r ddamwain, tra bod gan 22 o bobol eraill mân anafiadau.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau i’r ddamwain ddigwydd yn Gosau, rhyw 30 cilomedr i’r de-ddwyrain o Salzburg.
Roedd yr ymwelwyr ar eu ffordd i bentref Hallstatt.