Mae rhaglen ddogfen a fydd yn cael ei darlledu ar S4C nos yfory yn ceisio darganfod os y gwnaeth yr ysbïwr a oedd yn hen-ewythr i gyn-Brif Weinidog Cymru erioed gyfarfod ag arweinydd Rwsia.

Ar Rhodri Morgan: Ysbïwr yn y Teulu fe fydd y diweddar Rhodri Morgan i’w weld yn olrhain hanes ei berthynas, Morgan Watkin, a fu’n ysbïwr i’r Ymherodraeth Brydeinig.

Yn ôl rhai adroddiadau bu iddo gyfarfod â Vladimir Lenin – â hynny cyn iddo ddod yn arweinydd ar yr Undeb Sofietaidd – mewn siop farbwr i rannu gwybodaeth, a bydd y rhaglen yn ceisio profi hyn.

“I feddwl ei bod hi’n bosib iddo fe ddod ar draws Lenin a chael gwybodaeth oddi wrth Lenin ac yn gallu bwydo hynny yn ôl i’r awdurdodau ym Mhrydain Fawr,” meddai Rhodri Morgan ar y rhaglen.

“Os yw hynny’n wir, mae’n stori hollol syfrdanol.”

Yn ymuno â Rhodri Morgan ar ei daith mae ei gyfyrdres, yr hanesydd Nia Powell, sydd wedi astudio papurau Morgan Watkin; ynghyd â’i frawd, yr Athro Prys Morgan, sydd hefyd yn hanesydd.

Bu Rhodri Morgan farw ar Fai 17, 2017, ar ol treulio rhai misoedd yn ffilmio’r rhaglen ddogfen.

Morgan Watkin

Yn fab ffarm o Gwm Tawe, mi wnaeth Morgan Watkin (1878-1970) adael yr ysgol yn 12 oed i weithio fel glöwr, cyn dychwelyd i fyd addysg a chwblhau PhD ar Lenyddiaeth Ganoloesol Ffrangeg.

Ac yn ystod ei gyfnod yn astudio yn Zürich, cafodd flas ar fyd dirgel yr ysbïwr gan ddarparu gwybodaeth i Lloyd George – a oedd yn weinidog cabinet ar y pryd.

Gallwch lawrlwytho rhagflas o’r rhaglen yn fan hyn.

Bydd Rhodri Morgan: Ysbïwr yn y Teulu yn cael ei darlledu nos Iau (Mawrth 29) ar S4C, am 9.30yh.