Mae Nicolas Sarkozy wedi cael ei ddwyn i’r ddalfa, fel rhan o ymchwiliad ariannol.
Yn ôl honiadau, fe dderbyniodd cyn-arlywydd Ffrainc “filiynau o ewros o arian anghyfreithlon” gan gyfundrefn Muammar Gaddafi yn Libya.
Mae Nicolas Sarkozy yn cael ei holi gan yr heddlu yng ngorsaf Nanterre, i’r gorllewin o Baris.
Mae ymchwiliad i’r honiadau wedi bod ar y gweill ers 2013, gan fod yr honiadau’n awgrymu i’r gwleidydd ddefnyddio’r arian i dalu am ei ymgyrch lwyddiannus i ddod yn arlywydd Ffrainc yn 2007.