Mae gwledydd Sgandinafia a gogledd Ewrop yn llwyddo i greu “amodau da ar gyfer bywydau da”, yn ôl pennaeth melin drafod o Ddenmarc.
Daw’r sylw yn sgil cyhoeddiad ‘Adroddiad Hapusrwydd y Byd’, sy’n rhestru gwledydd y byd yn ôl lefelau hapusrwydd ac ansawdd bywyd.
Eleni mae’r Ffindir wedi dod i’r brig, gyda Norwy, Denmarc, Gwlad yr Iâ a Sweden ymhlith y deg uchaf. Mae’r gwledydd yma wedi ers yr adroddiad cyntaf yn 2012.
Yn ôl Meik Wiking, pennaeth y Sefydliad Ymchwil Hapusrwydd yn Copenhagen, mae’r gwledydd yn “dda o ran troi cyfoeth mewn i amodau llesol”.
Mae hefyd yn nodi bod y gwledydd yn talu “rhai o drethi uchaf y byd”, ond bod hyn yn arwain at well cyfleusterau cyhoeddus a rhyddid personol.
Y deg uchaf
1. Y Ffindir
2. Norwy
3. Denmarc
4. Gwlad yr Iâ
5. Y Swistir
6. Yr Iseldiroedd
7. Canada
8. Seland Newydd
9. Sweden
10. Awstralia