“Mae’r byd yn ein gwylio ni, a rhaid i ni osod esiampl” – dyna oedd neges Jimmy Kimmel wrth gyflwyno 90ain seremoni’r Oscars nos Sul.
Cafodd y seremoni ei chynnal yng nghysgod sgandal Harvey Weinstein – cynhyrchydd ffilmiau sydd wedi ei gyhuddo o aflonyddu rhywiol – a gwnaeth sawl ffigwr cydnabod hyn.
Yn ystod ei fonolog agoriadol cyfeiriodd Jimmy Kimmel at y sgandal, gan rybuddio Hollywood: “Dydyn ni methu caniatáu’r ymddygiad yma mwyach.”
Roedd sawl actor a chyfarwyddwr adnabyddus yn gwisgo bathodynnau ‘Time’s Up’ yn y seremoni – Mudiad sy’n gwrthwynebu aflonyddu rhywiol.
Ac ar un adeg ymddangosodd actorion sy’n honni iddyn nhw gael eu haflonyddu gan Harvey Weinstein, ar y llwyfan â’i gilydd.
Y teilwng
Yr actor o Loegr, Gary Oldman, wnaeth ennill y wobr am yr actor gorau eleni, am ei bortread o Winston Churchill yn The Darkest Hour.
Frances McDormand enillodd y wobr am yr actores orau am ei rôl yn Three Billboards Outside Ebbing, Missouri; gyda The Shape of Water yn ennill gwobr y ffilm orau – ynghyd â thri Oscar arall.