Mae’r pêl-droediwr rhyngwladol a chapten tîm Fiorentina, Davide Astori wedi marw’n 31 oed.
Dywedodd ei glwb fod yr amddiffynnwr wedi’i daro’n wael “yn sydyn”.
Enillodd e 14 o gapiau dros yr Eidal.
Mae holl gemau Serie A, prif gynghrair yr Eidal, wedi’u gohirio yn dilyn ei farwolaeth. Roedd disgwyl i Fiorentina herio Udinese.
Gyrfa
Dechreuodd Davide Astori ei yrfa gydag AC Milan cyn mynd ar fenthyg i Pizzighettone a Cremonese cyn symud i Cagliari yn 2008.
Yn ystod ei gyfnod gyda Cagliari, treuliodd e gyfnodau ar fenthyg yn Roma a Fiorentina, gan symud i Fiorentina yn 2016.
Cynrychiolodd e dîm dan 18 yr Eidal cyn ymddangos yng nghrys prif dîm yr Eidal am y tro cyntaf yn 2011. Daeth i’r cae fel eilydd yn ystod yr hanner cyntaf erbyn yr Wcráin cyn gweld cerdyn coch gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill.
Sgoriodd ei unig gôl ryngwladol yn erbyn Wrwgwái yng Nghwpan Conffederasiwn FIFA yn 2013.