Mae’r cwmni teledu cêbl, Comcast, wedi cyhoeddi cynnig gwerth £22.1bn i brynu mwyafrif y cyfranddaliadau yng nghwmni Sky.
Her yw’r cynnig yma i gwmni 21st Century Fox, sydd eisoes wedi cynnig dêl gwerth £18.5bn i brynu’r cyfranddaliadau.
Tra bod 21st Century Fox yn gobeithio talu £10.75 am bob siâr, mae Comcast yn dweud eu bod yn awyddus i dalu £12.50 yr un – 16% yn uwch.
Mae rheoleiddwyr eisoes wedi cynnig sawl rhwystr i gynigion 21st Century Fox, gyda phryderon y byddai’n gosod gormod o bŵer a dylanwad yn nwylo perchennog y cwmni, Rupert Murdoch.
Comcast yw cwmni teledu cebl mwyaf yr Unol Daleithiau, ac mae’n berchen ar ddarlledwr teledu NBC ac Universal Pictures