Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cerddor John Griffiths o Bontrhydyfen, oedd yn fwyaf adnabyddus fel aelod o’r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc, ac sydd wedi marw’n sydyn.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan ei nith Bethan Mair ar ei thudalen Facebook.
Mewn neges, dywedodd ei bod yn “eithriadol o drist o orfod dweud fod ein hewythr arbennig, John Griffiths, wedi marw neithiwr. Cerddor eithriadol, cymeriad digymar, werth y byd xxx.”
‘Ffrind oes’ i Cleif Harpwood
Dywedodd Cleif Harpwood ei fod yn “ffrind oes”, a’r ddau wedi’u magu ym Mhontrhydyfen, lle bu John Griffiths yn byw ar hyd ei oes.
“Ry’n ni i gyd o fewn y band wedi synnu’n fawr,” meddai wrth golwg360. “Roedd e’n ddyn addfwyn iawn ac yn gerddor oedd wedi chwarae gyda rhan fwya’r bandiau mawr.”
Ymhlith y rhai y bu’n gerddor achlysurol gyda nhw yn ystod ei yrfa roedd Tecwyn Ifan, Dafydd Iwan, Ac Eraill a llawer iawn mwy.
“Roedd e’n gerddor cydnabyddedig ac yn arwr tawel,” ychwanegodd Cleif Harpwood. “Roedd e’n dod o gefndir cerddorol, ei rieni a’i ddwy chwaer yn gerddorion hefyd, ac felly fe gafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol ac yn canu cerdd dant, hyd yn oed.
“Cawson ni ein codi gyda’n gilydd yn y pentre’, ac yntau’n ddyn oedd wedi aros yn ei fro ar hyd ei oes, yn wahanol i lot o Gymry heddiw.”
Hefin Elis “mewn sioc”
Ychwanegodd cyd-gerddor arall, Hefin Elis, un arall o Bontrhydyfen, ei fod yn “ffrind oddi ar ysgol gynradd” a bod ei golled yn “drist ofnadwy”.
“Roedd o’n gerddor da, ffrind da, cymdeithaswr da. Dan ni i gyd mewn sioc ar ôl clywed y newyddion.
“Roedd o wastad yn hapus, yn falch o weld rhywun a mwynhau bod yn gymdeithasol. Roedd o wastad yn bositif iawn er fod o wedi cael trawiad ychydig flynyddoedd yn ôl.”
‘Arwr tawel’ – Caryl Parry Jones
“Dw i wedi’i nabod o ers pedwar degawd,” meddai Caryl Parry Jones wrth golwg360, “ac roedd o’n enaid caredig tu hwnt.”
Fe fu’r ddau yn gyd-aelodau yn y band Injaroc, ynghyd â’i gefnder, y canwr Geraint Griffiths, ac mi fydd yn ei gofio fel “arwr tawel”.
“Pan oedd pawb yn cael y clod a’r bri, roedd John yn solet yn y cefn yn chwarae’n hyfryd bob tro, ond ddim yn crefu clod a llygad y goleuni.
“Mae o’n un o’r cymeriadau yna sy’ wedi bod yna ar hyd yr adeg, nid yn unig yn chwarae i Edward H. ond yn chwarae i bob math o fandiau eraill ac yn dal i wneud a mwynhau.
“Mae ei gyfraniad yn aruthrol yn yr ystyr fod o yna ar y dechrau pan oedd ffrwydrad ar y sîn roc Gymraeg, pennod Edward H. yn dechrau, a jyst wedi cadw’n dawel yn y cefn ac wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer oedd yn chwarae’r gitâr fas.
“Roedd o’n un o’r chwaraewyr sesiwn mwya’ cyson ar hyd y blynyddoedd. Mae o wedi bod yn aelod achlysurol o lot o fandiau fel Hergest, Ac Eraill a wnaeth o chwarae ar record Sidan, Nia Ben Aur yn un achlysur arall lle roedd ei gefndir solet o’n cadw lot o hynny efo’i gilydd.”
Hiwmor
Dywedodd y byddai’n ei gofio fel un “dirodres, hynod dalentog, doniol iawn, gŵr bonheddig”.
“Roedd gynno fo hiwmor weithiau oedd yn gallu tawelu pobol yn eitha’ siarp, dim bod gynno fo dafod siarp o gwbwl, a byth yn angharedig efo neb.
“Jyst hiwmor Cymraeg traddodiadol oedd yn cadw pobol yn eu lle weithiau!”