“Dim ond gwenu a chwerthin” y mae Mici Plwm wrth feddwl am ei gyd-actor Trefor Selway, meddai wrth golwg360.
Daeth y newyddion y bore yma am farwolaeth yr actor oedd yn adnabyddus am ei rannau yn Hafod Haidd, Palmant Aur, A Mind To Kill, Oed yr Addewid, Storms of Justice a Wild Justice.
Roedd yn actor amlwg ar lwyfan hefyd, ac yn ffigwr blaenllaw yn nyddiau cynnar y theatr Gymraeg, ac fe fu Mici Plwm yn cydweithio â fe ar gyfer y gyfres Porc Peis Bach.
Dywedodd wrth golwg360: “Roedd Trefor yn boblogaidd iawn, iawn o fewn y diwydiant. Ges i’r fraint o gydweithio efo fo ar gynhyrchiadau mawrion. Amadeus, er enghraifft, yn Theatr Gwynedd.
“Pan dw i’n meddwl amdano fo, dim ond gwenu a chwerthin ydw i achos oedd o’n gymeriad ac yn berson hoffus ac agos atoch. Roedd o’n gwmni difyr iawn os oedd toriad i witsiad am olygfa. Oedd o’n bleser mynd i gongl neu’r stafell werdd a lot ohonon ni efo’r un hiwmor.”
Gwaith ar y radio
Yn ogystal â bod yn actor ar deledu a’r llwyfan, fe fydd Mici Plwm yn cofio Trefor Selway fel un “a wnaeth lot fawr o waith radio achos mi oedd gynno fo ddawn dweud a Chymraeg coeth iawn”.
Ef oedd cyflwynydd Noson Lawen ar y radio cyn iddi ddod i’r teledu ac roedd yn “boblogaidd tu hwnt”, meddai Mici Plwm.
“Roedd Trefor yn un da a ffraeth iawn ar lwyfan, ac roedd gynno fo amseru da wrth ddweud stori. Pan fyddai rhywun yn gweld enw Trefor yn arweinydd, yn y gogledd yn arbennig, roedd o’n boblogaidd tu hwnt.
“Mae amseru comedi’n bwysig. Roedd o’n actor strêt yn yr ystyr fod o hefyd yn ymgymryd ag actio seriws a dramâu. Mae o o’r hen giwed oedd yn diddanu ni pan o’n i’n blentyn. Doedd o ddim yn fusnes llawn amser bryd hynny chwaith.
“Cam naturiol wedyn iddo oedd mynd i fyd radio a’r ddrama radio.”
‘Sgrym o’i gwmpas bob amser’
Wrth drafod ei gymeriad, dywedodd Mici Plwm fod “pawb isio gwneud sgrym o’i gwmpas o bob amser i’w gofleidio fo”.
“Roedd gynno fo rywbeth i’w ddweud wrth bawb. Fasa fo byth yn pasio heb ddeud helo. Roedd o wrth ei fodd yn siarad a sgwrsio ac wrth ei fodd yn clywed snippets o gossip. Person annwyl tu hwnt.”