Mae Arlywydd Rwsia wedi gorchymyn cadoediad dyddiol mewn rhan o brifddinas Syria.
Gan ddechrau ddydd Mawrth (Chwefror 27), bydd cadoediad mewn grym bob dydd yn Nwyrain Ghouta rhwng 9 y bore a 2 yr hwyr.
“Seibiau dyngarol” yw’r enw sydd wedi’i rhoi gan Vladimir Putin am y drefn yma. Bydd Rwsia hefyd yn helpu i sefydlu llwybr arbennig i ddinasyddion sydd eisiau ffoi o’r ardal.
Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd yn unig wedi i Gyngor Amddiffyn y Cenhedloedd Unedig gymeradwyo dogfen yn galw am gadoediad ledled Syria.
Mae Dwyrain Ghouta wedi bod yn cael ei thargedu gan luoedd Llywodraeth Syria ers rhai wythnosau – mae Rwsia yn cefnogi’r ymgyrch hon.
Mae’n debyg y bu farw o leiaf 10 person yno ddydd Llun yn dilyn ymosodiad â ffrwydron.