Mae gan India 63 miliwn yn llai na’r disgwyl o ferched, yn ol ystadegau newydd – ac mae’n arwydd o’r ffordd y mae’r ferch yn cael ei gweld a’i thrin gan y gymdeithas.
Mae ffafriaeth i fechgyn yn rhan o’r broblem, meddai’r arolwg o’r boblogaeth. Mae 21 miliwn o ferched yn cael eu rhestru wedi’u gwrthod gan eu teuluoedd, yn ogystal â’r ffaith fod mamau yn dewis erthylu babanod benywaidd.
Tra bod genedigaeth bachgen yn achos dathlu, mae genedigaeth merch yn cael ei ystyried yn embaras, neu hyd yn oed yn ‘alar’, wrth i rieni ragweld gorfod codi morgais er mwyn talu am gostau priodi.
“Mae’r drafodaeth am ddynion a menywod yn her sy’n mynd yn ol filoedd o flynyddoedd,” meddai awdur yr adroddiad, Arvind Subramanian, “ac mae’n rhaid i India fynd i’r afael â’r ffafriaeth i fechgyn.”
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw mwy o gyfoeth yn golygu bod y ffafriaeth yn marw allan. Mae rhai o ardaloedd cyfoethoca’ India, yn cynnwys Delhi Newydd, ymhlith y gwaethaf.
Roedd yr ystadegau gorau ar gyfer datblygu a hybu menywod yng ngogledd-ddwyrain y wlad – “yn fodel ar gyfer gweddill y wlad” – ond bod y clwstwr hwnnw o daleithiau yn llefydd lle mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn teimlo eu bod nhw’n teimlo’n agosach at Tsieina a Myanmar (Burma).