Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerbyd a cherddwr ar yr A55 yn Ynys Môn.
Digwyddodd y ddamwain am 6.52yh ddydd Llun (Ionawr 29), rhwng cyffordd 6 a 5 ger y tro i Langefni.
Bu farw’r cerddwr, dyn lleol, yn y fan a’r lle.
Mae Uned Plismona Ffyrdd y Gorllewin yn apelio ar unrhyw dystion a welodd y cerddwr cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.