Mae llosgfynydd mwya’r Philipinas wedi ffrwydro, gan achosi i lafa chwilboeth lifo i lawr ei lethrau, ac i gymylau o ludw godi i’r awyr uwchben.
Mae 56,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi ers i Fynydd Mayon chwydu ei berfedd ddydd Mawrth (Ionawr 23).
Ond er y perygl, mae nifer o bobol wedi mynnu aros ar eu ffermydd yng nghyffiniau’r mynydd, a hynny er mwyn gofalu am eu hanifeiliaid.
Mae’r awdurdodau’n rhybuddio y gallai Mynydd Mayon ffrwydro eto o fewn yr oriau neu’r dyddiau nesaf, gan fod y ddaear yn dal i grynu yn yr ardal.