Mae gweinidogion Ewropeaidd wedi cyfleu ffydd yng ngallu Groeg i basio adolygiad diweddar o’i pherfformiad economaidd.
Yn ôl Comisiynydd Materion Ariannol Ewrop, Pierre Moscovici, mae disgwyl y bydd Groeg yn “dychwelyd i fod yn aelod normal o ardal yr Ewro” yn fuan wedi’r adolygiad yma.
Mae’r wlad wedi bod yn ddibynnol ar fenthyciadau rhyngwladol ers 2010, ond mae disgwyl i’w dibyniaeth ar Ewrop ddod i ben yn ystod haf eleni.
I fynd i’r afael â dyledion anferthol y wlad mae senedd Groeg eisoes wedi cyflwyno cyfres o ddiwygiadau gan gynnwys toriadau i wasanaethau cyhoeddus.