Bu farw’r athro ysgol uwchradd sy’n cael ei gofio am gyflwyno Alan Llwyd i’r gynghanedd.

Roedd Thomas Emyr Pritchard yn athro Cymraeg yn Ysgol Botwnnog yn Llŷn yn ystod yr ‘oes aur’ pan oedd Gruffudd Parry hefyd yn athro Saesneg yno.

Mae cyn-ddisgyblion wedi bod yn cofio yn dyner am ‘Pritch Welsh’, fel yr oedd Emyr Pritchard yn cael ei alw – y gŵr mwyn a oedd hefyd yn sticlar am reolau gramadeg.

Tra’n athro ym Motwnnog y daeth i nabod Mair, yr athrawes Ddaearyddiaeth a ddaeth yn wraig iddo.

Ar ôl ymddeol yn 1988, fe aeth y ddau i fyw i bentref Pontllyfni, Dyffryn Nantlle, gan ddod yn gefn mawr i bob peth diwylliannol yn yr ardal.

Bu farw Mair Pritchard ar Chwefror 14, 2016 yn 83 oed, ac fe gafodd Emyr Pritchard yntau ei wanio gan sawl strôc yn ystod ei flynyddoedd olaf.

Emyr Pritchard oedd golygydd Bro a Bywyd: R Williams Parry yn 1998. Mae’r gyfrol allan o brint ers blynyddoedd.