Mae gweinidog trafnidiaeth Israel yn bwrw ymlaen â chynllun i ymestyn rheilffordd gyflym reit at y Wal Orllewinol – ac yno, mae am enwi’r orsaf ar ol Donald Trump, arlywydd America.
Mae cynllun Yisrael Katz yn cynnwys hefyd adeiladu dwy orsaf danddaearol newydd, a chloddio mwy na dwy filltir o dwnnel o dan yr hen ddinas sanctaidd.
Y Wal Orllewinol ydi’r safle mwya’ sanctaidd ohonyn nhw i gyd i’r Iddewon, ac maen nhw’n troi yno i weddïo.
Fe fyddai’r cynllun dan sylw yn costio tua $700m a – phe bai’n cael ei awdurdodi – yn cymryd pedair blynedd i’w gwblhau.
Ond mae disgwyl i’r cynllun ddenu gwrthwynebiad mawr gan y gymuned ryngwladol, sydd ddim yn cydnabod sofraniaeth Israel dros ddwyrain Jerwsalem.
Mae disgwyl i reilffordd gyflym Tel Aviv i Jerwsalem agor yn ystod gwanwyn 2018.