Mae dyn o wledydd Prydain wedi’i ladd yn Nigeria, a hynny dair wythnos ers iddo gael ei herwgipio a’i ddal yn wystl yno.
Mae union amgylchiadau marwolaeth Ian Squire yn parhau’n aneglur, ond mae tri o’i gydweithwyr wedi’u rhyddhau wedi i awdurdodau Nigeria a gwledydd Prydain lwyddo i ddod i gytundeb.
Yn ôl adroddiadau roedd Ian Squire, Alanna Carson a David a Shirley Donovan yn cynnal gwaith fel cenhadon Cristnogol pan gawsant eu cipio o’u llety yn nhalaith Delta yn ne’r wlad ar Hydref 13.
Mae llefarydd ar ran Swyddfa Dramor y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau ei bod yn “cefnogi teuluoedd pedwar o bobol Brydeinig gafodd eu cipio ar Hydref 13 yn Nigeria.”
“Mae hyn yn amlwg wedi bod yn gyfnod trawmatig i bawb oedd ynghlwm,” meddai’r llefarydd.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i awdurdodau Nigeria, ac nid ydym yn gallu cynnig sylwadau oherwydd natur yr ymchwiliadau sy’n parhau ganddyn nhw.”