Mae 86 o bobol sy’n cael eu hystyried yn eithafwyr Rwsiaidd wedi cael eu harestio yn dilyn protest ym Mosgo.

Aelodau o’r grŵp Artpodgotovka oedd wedi trefnu’r brotest yn Sgwâr Manezh, gyferbyn â’r Kremlin.

Daw’r brotest ddau ddiwrnod ar ôl i asiantaeth ddiogelwch y wlad ddweud eu bod nhw wedi arestio aelodau o’r grŵp sydd wedi’i amau o gynllwynio i roi adeiladau’r llywodraeth ar dân.

Mae’r grŵp yn cael ei ystyried yn eithafwyr yn dilyn achos llys yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r arweinydd, Vyacheslav Maltsev wedi galw arnyn nhw i brotestio er mwyn galw ar Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin i ymddiswyddo.

Er mai 86 yw ffigwr swyddogol yr awdurdodau, mae lle i gredu bod hyd at 200 o bobol yn cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd, yn ôl asiantaeth newyddion yn Rwsia.