Mae pennaeth Ofsted, y corff sy’n arolygu ysgolion yn Lloegr, wedi mynegi pryder nad yw plant heddiw’n gyfarwydd â hwiangerddi a rhigymau traddodiadol, yn ôl adroddiad yn y Sunday Times.

Yn ôl Amanda Spielman, mae hi’n “drueni mawr” fod yn well gan blant chwarae gemau cyfrifiadurol na chanu’r hwiangerddi a’r rhigymau sydd wedi bod yn rhan bwysig o blentyndod ers cenedlaethau.

Mae disgwyl iddi ddweud wrth gynhadledd gofal plant: “Rwy’n dychmygu y gall y mwyafrif ohonoch chi adrodd The Grand Old Duke Of York. Ond allwn ni ddim dweud bod hynny’n wir am blant heddiw.

“Efallai bod Humpty Dumpty yn ymddangos yn hen ffasiwn, ond mae plant sy’n gallu canu cân a chofio stori i’w hadrodd yn bedair oed yn cael eu paratoi’n well ar gyfer mynd i’r ysgol.

“Mae hwiangerddi a rhigymau’n cynnig profiad cilyddol – ac yn dysgu rhywfaint o hanes cymdeithasol yn ogystal.”