Mae dyn o Wsbecistan wedi ei gyhuddo o gynorthwyo grŵp brawychol ac o achosi dinistr, yn sgil ymosodiad yn Efrog Newydd ddydd Mercher yr wythnos hon.
Mae Sayfullo Saipov hefyd wedi ei gyhuddo o achosi trais, yn yr ymosodiad yn Manhattan lle bu farw wyth o bobol.
Ar ôl i gar fynd ar ei ben i mewn i grwp o gerddwyr a seiclwyr yn West Street, Efrog Newydd, fe afodd Sayfullo Saipov ei saethu gan yr heddlu,
Ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty, mae staff yr ysbyty yn honni iddo geisio mynnu eu bod nhw’n arddangos baner y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn ei ystafell. Dywedodd hefyd ei fod yn “teimlo’n dda” wedi iddo gyflawni’r weithred.
“Lladdodd wyth o bobol, a niweidiodd ddeuddeg yn ddifrifol. MI DDYLAI DDERBYN Y GOSB EITHAF!” meddai Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, mewn neges ar Twitter.
Mae llys ffederal Efrog Newydd wedi gorchymyn ei fod yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mi fydd yn ymddangos gerbron y llys unwaith eto ar Dachwedd 15.