Mae dau forwr a’u cŵn wedi cael eu hachub gan lynges yr Unol Daleithiau wedi iddyn nhw dreulio dros bum mis ar goll yn nyfroedd y Môr Tawel.

Roedd y ddwy ddynes o Honolulu wedi gobeithio teithio ar eu bad hwylio o Hawaii i Tahiti, ond methodd injan eu cwch wedi mis o deithio.

Llwyddodd y menywod i bara am gyfnod mor hir trwy ddefnyddio teclyn puro dŵr a thrwy fwyta bwydydd sych gan gynnwys blawd ceirch a phasta.

Wedi deufis o fod ar goll dechreuodd Jennifer Appel a Tasha Fuiava anfon negeseuon cyfyngder o’u cwch yn ddyddiol, ond doedd neb yn medru eu clywed.

Cawson nhw eu hachub yn y pendraw gan long Americanaidd wedi i gwch bysgota o Daiwan ddod o hyd iddyn nhw.