Mae Catalwnia yn wynebu wythnosau o anhrefn ac ansicrwydd cynyddol ar ôl i lywodraeth Sbaen ddiddymu ei senedd a galw etholiadau yno ar 21 Rhagfyr.
Yn dilyn y mesurau diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi gan Brif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy neithiwr, mae’r argyfwng gwleidyddol mwyaf yn hanes y wlad ers dyddiau Franco wedi dwysáu’n sylweddol.
Roedd cyhoeddiad y prif weinidog yn dilyn pleidlais dros annibyniaeth yn senedd Catalwnia bnawn ddoe.
Daw pwerau llywodraeth Sbaen o dan erthygl 155 o gyfansoddiad y wlad, sy’n rhoi hawl i Mariano Rajoy roi’r sac i arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, a chipio rheolaeth o wasanaeth sifil, heddlu, cyllid a chyfryngau cyhoeddus Catalwnia.
Wrth i lywodraeth Prydain ddatgan ei chefnogaeth i undod Sbaen, mae Plaid Cymru’n galw ar i Gymru gydnabod annibyniaeth Catalwnia.
Galw pleidlais yn y Cynulliad
Yn ôl yr arweinydd, Leanne Wood, fe fydd Plaid Cymru yn galw am bleidlais yn y Cynulliad i gydnabod Catalwnia fel gwlad annibynnol.
“Rwy’n llongyfarch pobl Catalwnia ar ennill eu hannibyniaeth trwy ddulliau heddychlon a democrataidd,” meddai wrth ymateb i’r bleidlais ddoe.
“Mae pobl Catalwnia wedi mynnu ar drywydd democrataidd i sicrhau annibyniaeth drwy’r blwch pleidleisio. Dylid eu cymeradwyo am barhau i wrthod trais, er gwaetha’r ffaith eu bod yn wynebu gorthrwm Gwladwriaeth Sbaen.”
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eu bod yn parchu penderfyniad llywodraeth Catalwnia, gan alw am ddeialog i ddatrys yr argyfwng.
“Rydym yn deall ac yn parchu llywodraeth Catalwnia,” meddai Fiona Hyslop, Ysgrifennydd Materion Allanol Llywodraeth yr Alban. “Er bod gan Sbaen yr hawl i wrthwynebu annibyniaeth, rhaid i bobl Catalwnia gael y gallu i benderfynu eu dyfodol eu hunain.
“Ni all gorfodi rheolaeth uniongyrchol fod yn ateb a dylai fod o bryder i ddemocratiaid ymhobman.”
Cefnogi undod Sbaen
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Theresa May nad yw Prydain yn cydnabod datganiad annibyniaeth llywodraeth ‘ranbarthol’ Catalwnia.
“Mae’n seiliedig ar bleidlais sy’n anghyfreithlon yn ôl llysoedd Sbaen,” meddai. “Rydym yn dal i fod eisiau gweld y gyfraith yn cael ei chynnal, cyfansoddiad Sbaen yn cael ei barchu, ac undod Sbaen yn cael ei warchod.”
Mae llywodraethau’r Almaen ac America a hefyd yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod cydnabod datganiad annibyniaeth Catalwnia.