Ffiji
Mae Iolo Hughes o Gaernarfon yn wedi teithio o Ffiji er mwyn gweithio fel gwirfoddolwr mewn ysgol leol, gan ddysgu Saesneg a Chwaraeon i’r plant. Tra’i fod yno fe fydd yn ysgrifennu blog am ei brofiadau i Golwg360.

Paratoi i adael Awstralia

Wrth eistedd yma ar yr awyren yn disgwyl hedfan o Sydney, wedi mis o fwynhau’n Awstralia, mae’n anodd dygymod â’r hyn fydd yn digwydd dros y mis nesaf.

Rwy’n gadael gwlad lwyddiannus a modern i fynd i wirfoddoli mewn cymuned dlawd yn Ffiji, gwlad sy’n dal i ddatblygu a’n gwbl newydd i mi. Hwn fydd y tro cyntaf i mi fentro ar brosiect o’r fath, a’r tro cyntaf i mi ymweld a gwlad sy’n dal i ddatblygu. Rwy’n edrych ymlaen am y sialens bellach, yn enwedig at gael dysgu ffordd newydd o fyw ac at gael helpu’r gymuned mewn unrhyw ffordd sy’n bosibl.

Un agwedd o fywyd Ffiji sy’n ymdebygu at ein traddodiadau ni yng Nghymru yw eu cariad tuag at y bel hirgron, gyda rygbi’n ffordd o fyw ar yr ynysoedd bychain. Manteisiais ar y cysylltiad yma wrth i mi drefnu’r prosiect, a bum yn ddigon ffodus i gael y cyfle i ddysgu chwaraeon a Saesneg i blant mewn ysgol gynradd ym mhrifddinas Ffiji, Suva.

Sgwrs yn achosi pryder

Trwy gydol fy amser yn Awstralia, a cyn dod allan yma i ddweud y gwir, bum yn siarad gyda phobl oedd wedi bod yn Ffiji, a’r un sgwrs a gefais bob tro. Mae’r ynysoedd yn brydferth, yn berffaith ac yn baradwys llwyr. Ond nid i’r ynysoedd am wythnos o dorheulo a mwynhau fydda i’n mynd. Roeddwn yn falch iawn felly i siarad â dwy ferch o’r Alban a fu’n Suva ar eu taith o amgylch y byd. Newidiodd fy malchder yn bryder yn sydyn iawn wedi’r sgwrs ddechrau.

Fel hogyn gwlad sydd wedi tyfu i fyny yn ardal Caernarfon, cyn symud i’r brifysgol yng Nghaerdydd, roeddwn yn teimlo’n eithaf cyfforddus wrth wynebu sefyllfaoedd anodd ac anghyfarwydd. Wedi arfer ‘yn y wilds’ fel petai.

Diflannodd fy hunan-hyder yn syth wrth i’r genod ddweud, wedi’w syfrdanu a’u dychryn:

“You’re heading to Suva…for four weeks?!……Good luck mate!”

Ia, mae’n debyg nad o’n i’n disgwyl hynny. Byth ers y sgwrs yna mae’r nerfau wedi cynyddu a’r hyder wedi diflannu bellach, ‘dyw Suva a Chaernarfon ddim byd tebyg mae’n rhaid! Ond, dyma fi ar yr awyren bellach. Wedi ffarwelio â Lance, fy ffrind a fu hefo mi am fis yn Awstralia, ar ben fy hun go iawn am y tro cyntaf erioed! Mae’r mis nesaf am fod yn un diddorol i ddweud y lleiaf!

Does dim troi’n ôl rŵan…