Ysbyty Gwynedd
Mae elusen WRVS sy’n cynnal caffi Ysbyty Gwynedd wedi cadarnhau wrth Golwg 360 eu bod yn ymchwilio i “gyhuddiadau difrifol am amhriodoldeb ariannol”.
Cyhoeddwyd fis diwethaf y byddai WRVS yn rhoi’r gorau i archebu eu brechdanau gan gwmni lleol, Menai Deli, gan ffafrio cwmni cenedlaethol Ginsters.
Roedd Menai Deli wedi bod yn creu’r brechdanau ar gyfer y caffi ers 20 mlynedd ac yn cyflogi chwe aelod o staff i wneud y gwaith.
Mae WRVS hefyd wedi dweud wrth Golwg 360 y gallai cyflenwyr lleol eraill bwyd Ysbyty Gwynedd golli eu cytundebau, a bod adolygiad i’r perwyl hwnnw yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Dywedodd perchennog Menai Deli, Wyn Williams, mai ef oedd wedi gwneud y cwyn ond nad oedd yn gweld unrhyw obaith y cai barhau i ddarparu’r brechdanau beth bynnag oedd canlyniad yr ymchwiliad.
“Roeddwn i wedi cwyno am amhriodoldeb ariannol yn y cyfarfod ar 19 Awst ac maen nhw wedi penderfynu ymchwilio,” meddai.
Ond dywedodd ei fod eisoes wedi dod o hyd i swyddi newydd i’r chwe aelod o staff fu’n creu’r brechdanau ar gyfer caffi Ysbyty Gwynedd.
“Y cwbl y maen nhw wedi dweud wrthyf i ydi y caf i barhau wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddi, heb unrhyw syniad ynglŷn â pryd y bydd yn dod i ben,” meddai.
Cyhuddiadau
“Gwnaed y penderfyniad i gael ein cyflenwadau brechdanau i gyd gan yr un cwmni gyda’r bwriadau gorau er mwyn helpu WRVS i wneud ei waith elusennol,” meddai Darren Xiberras, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol y WRVS.
“Fodd bynnag, yn dilyn cyhuddiadau difrifol am amhriodoldeb ariannol, mae WRVS wedi penodi cwmni annibynnol o gyfrifwyr siartredig i ymchwilio i’r honiadau.
“Yn y cyfamser, bydd y sefyllfa bresennol o ran darparu cyflenwadau yn parhau hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau. Gan fod pawb yn dymuno rhoi blaenoriaethi ddatrys y mater hwn, byddwn yn ceisio cwblhau’r ymchwiliad mor fuan ag y bo modd.”
Mae rhai o wirfoddolwyr caffi WRVS Ysbyty Gwynedd wedi dweud eu bod nhw’n ystyried peidio â gwirfoddoli yno os nad yw’r bwyd yn cael ei gyflenwi gan gwmnïau lleol.
Ond dywedodd Darren Xiberras y byddai’r WRVS yn “cynnal cyfarfod arall gyda gwirfoddolwyr” ac yn gwahodd cynrychiolwyr allweddol i gyfarfod yn unigol ag aelodau o’n Tîm Gweithredol.
“Y gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn WRVS,” meddai Darren Xiberras.
“Mae gennym 595 o wirfoddolwyr ardderchog mewn 23 o wasanaethau yng Ngwynedd a’r cylch ac maent yn gwneud gwaith rhagorol dros bobl hŷn yn eu cymuned,” meddai.
“Mae’r gwaith gwych hwn yn y cymunedau yn golygu ein bod wedi gallu rhoi dros £500,000 mewn rhoddion i Ysbyty Gwynedd ers 2006.
“Mae hyn yn ategu’r gwaith arall a wnawn yng Nghymru, fel cynlluniau cyfeillio a chymdogion da, gwasanaethau pryd ar glud, cludiant cymunedol, gwasanaethau gwybodaeth mewn ysbytai a llawer o glybiau cinio a chlybiau cymdeithasol.”