Jacques Chirac
Dyw iechyd cyn-Arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac, ddim yn ddigon da iddo wynebu llys wedi ei gyhuddo o lygredd, honnodd ei gyfreithiwr heddiw.
Y barnwr fydd yn penderfynu a fydd rhaid i Jacques Chirac fynychu’r llys yn ystod yr achos yn ei erbyn, ond heddiw cyhoeddodd yr erlyniad na fydden nhw’n gwrthwynebu pe na bai’n bresennol.
Honnodd ei gyfreithiwr heddiw nad oedd cof y cyn-Arlywydd. Sy’n 78 oed, yn ddigon da iddo gymryd rhan.
Dywedodd Jean Veil fod cof Chirac “yn methu yn aml” a bod y cyflwr yn un “nad oedd modd ei drin”. Awgrymodd fod cysylltiad â’i strôc yn 2005.
Fe allai’r barnwr holi am ail farn feddygol cyn dod i benderfyniad.
Dyma achos llys cyntaf Ffrainc sy’n ymwneud â cyn-Arlywydd ers yr Ail Ryfel Byd ac mae disgwyl iddo barhau nes 23 Medi.
Gwadodd ei wraig, Bernadette Chirac, yn gynharach eleni fod ganddo glefyd Alzheimer’s, ond cadarnhaodd ei fod yn dioddef o broblemau naill ai o ganlyniad i’w strôc neu henaint.
Mae’r achos llys yn ymwneud â chyhuddiadau fod Chirac wedi creu sawl swydd ffug pan oedd yn faer Paris rhwng 1977 a 1995, er mwyn ariannu ei blaid geidwadol.
Doedd dim modd ei erlynu o drosedd yn ystod ei 12 mlynedd yn arlywydd Ffrainc.
Mae Jacques Chirac yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le ac wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn edrych ymlaen at gyflwyno ei achos o flaen y llys.