Mae disel coch oedd wedi gollwng i borthladd Aberystwyth wedi lledu i’r traeth, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dywedodd swyddogion yr asiantaeth eu bod nhw bellach wedi dod o hyd i ffynhonnell yr olew.

Maen nhw wedi bod yn ymchwilio i ffynhonnell yr olew ar y cyd â Chyngor Ceredigion a chontractwyr arbenigol, ac wedi darganfod ei fod yn gollwng o safle cwmni gerllaw.

Mae’r llygredd bellach wedi rhoi’r gorau i ollwng ond mae’n bosib y bydd rhywfaint sydd ar ôl yn y system garthffosiaeth yn ymddangos yn nyfroedd y porthladd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth fod sglein yr olew i’w weld ar y dŵr o hyd a’i fod yn drewi, ond eu bod nhw’n disgwyl iddo gael ei olchi i ffwrdd pan fydd hi’n bwrw’r prynhawn ma.

Maen nhw hefyd wedi dod o hyd i olion y llygredd ar draeth deheuol Aberystwyth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Ceredigion yn parhau i gynghori pobol sy’n aros ar gychod yn y porthladd i chwilio am le arall i aros.

Roedden nhw hefyd yn cynghori pobol oedd yn byw gerllaw i gau eu drysau a’i ffenestri.