Un o fwynwyr Chile
Mae llywodraeth Chile wedi caniatáu ymddeoliad cynnar i bron i hanner y 33 o fwynwyr cafodd eu caethiwo dan y ddaear am fwy na deufis.

Mae 14 o’r mwynwyr wedi gofyn am gael rhoi’r gorau i weithio am resymau corfforol neu seicolegol. Fe fyddwn nhw’n derbyn pensiwn o £331 y mis.

Cyflwynodd gwraig Arlywydd Chile, Cecilia Morel, y dogfennau pensiwn iddyn nhw mewn seremoni yn nhref Copiapo, ger safle’r mwynglawdd.

Goroesodd y mwyngloddwyr am 69 diwrnod ar waelod y pwll, 2,300 troedfedd o dan y wyneb, ar ôl i i’r mwynglawdd chwalu ar 5 Awst y llynedd.