Muammar Gaddafi
Mae llywodraeth Libya wedi saethu taflegryn ‘Scud’ at y gwrthryfelwyr sydd yn agosáu at y brifddinas Tripoli.

Dywedodd swyddogion amddiffyn yr Unol Daleithiau nad oedd y taflegryn, a gafodd ei lansio toc wedi hanner nos ddydd Sul, wedi anafu unrhyw un.

Glaniodd yn yr anialwch tua 50 milltir y tu allan i Brega, medden nhw. Mae’r ddwy ochor wedi rheoli’r ddinas am gyfnodau yn ystod y rhyfel cartref.

Mae’r ymosodiad yn arwydd o anobaith gan Lywodraeth Libya wrth i’r gwrthryfelwyr agosáu at atal cyflenwad bwyd, tanwydd a nwyddau eraill i mewn i Tripoli.

Dywedodd gweinyddiaeth Obama fod cynnydd y gwrthryfelwyr dros y misoedd diwethaf yn galonogol ond nad oedden nhw yn sicr o ennill y dydd eto.

Roedd Nato a lluoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi targedu taflegrau Scud gweinyddiaeth Libya yn gynharach eleni oherwydd pryderon y byddai Muammar Gaddafi yn eu saethu i ganol ardaloedd oedd y tu hwnt i’w reolaeth.

Penderfynodd yr Unol Daleithiau a gwledydd Ewrop ymyrryd yn Libya ar 19 Mawrth, ac mae Nato wedi cymryd yr awenau ers dechrau mis Ebrill.

Mae’r Unol Daleithiau yn parhau i ddarparu jetiau ac awyrennau di-beilot, yn ogystal â llongau rhyfel oddi ar yr arfordir.