Warren Buffet
Mae un o’r dynion mwyaf cyfoethog yn y byd wedi galw ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i godi rhagor o drethi ar y cyfoethog.

Mewn darn barn yn y New York Times mae Warren Buffet, y trydydd dyn cyfoethocaf yn y byd, yn dweud fod angen i’r llywodraeth roi’r gorau i faldodi’r cyfoethog.

Dywedodd ei fod yn wirion bost ei fod yn talu llai o dreth nag unrhyw un arall yn ei swyddfa, er ei fod yn ennill miliynau bob blwyddyn.

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud ei ffortiwn yn y 80au a’r 90au pan oedd y dreth ar y bobol fwyaf cyfoethog llawer yn uwch, ac nad oedd hynny wedi ei atal rhag gwneud arian.

“Tra bod y tlawd a’r dosbarth canol yn brwydro yn Afghanistan, a tra bod y rhan fwyaf o bobol yn yr Unol Daleithiau yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, rydyn ni bobol gyfoethog yn parhau i fwynhau toriadau treth anferth,” meddai,

“Mae gwleidyddion Washington yn teimlo fod rhaid iddyn nhw ein gwarchod ni, fel pe baen ni’n ryw fath o dylluanod prin.

“Y llynedd dim ond 17.4 y cant o fy incwm fu’n rhaid i mi ei dalu, sy’n ganran llai na’r 20 person arall sydd yn ein swyddfa ni.

“Roedd rhaid iddyn nhw dalu rhwng 33 y cant a 41 y cant o’u hincwm. Y cyfartaledd oedd 36 y cant.

“Rydw i wedi gweithio gyda buddsoddwyr am 60 mlynedd ac erioed wedi gweld unrhyw un – hyd yn oed pan oedd treth yn 39,9 y cant yn 1976-77 – yn gwrthod buddsoddi oherwydd fod trethi’n uchel.

“Mae pobol yn buddsoddi er mwyn gwneud arian, a dyw trethi erioed wedi eu dychryn nhw.

“I’r rheini sy’n dadlau fod trethi uwch yn atal creu swyddi, cafodd 40 miliwn o swyddi eu hychwanegu rhwng 1980 a 2000.

“Ers hynny mae trethi wedi disgyn, ond mae llawer llai o swyddi wedi cael eu creu.”