Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth ar ôl i chwe char gael eu dwyn o fodurdy yn Abertawe.
Dywedodd yr heddlu fod lladron wedi torri i mewn i RGM Motors ar Viking Way, Winsh-Wen, dros y penwythnos.
Dyma’r ceir gafodd eu dwyn:
• Honda Civic coch – RE02 TVP
• BMW du – RE09 UNL
• VW Golf llwyd – RE10 FVR
• Ford Focus arian – CK06 Z
• Vauxhall Zafira – FD11 VLF
• Ford Fiesta du – BD59 JWX
Dywedodd Ditectif Arolygydd Treforys, Justin Evans, ei bod nhw wedi dod o hyd i’r VW Golf llwyd ond yn galw am gymorth y cyhoedd wrth ddod o hyd i’r pump arall.
“Rydyn ni’n annog i unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn y modurdy rhwng 7.30pm ddydd Sadwrn a 10am heddiw i gysylltu gyda ni,” meddai.
“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi gweld y cerbydau yma yn ardal Abertawe i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Treforys ar 01792 614350 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.