Protestio yn Syria
Mae Syria wedi cymharu protestiadau gwrthwynebwyr y llywodraeth yno â’r terfysgoedd ar strydoedd Lloegr, gan gyhuddo Llywodraeth San Steffan o ‘ragrith’.

Mae’r llywodraeth wedi ymateb i’r gymhariaeth gan ddweud ei fod yn “chwerthinllyd”.

“Mae’n ddiddorol iawn clywed Prif Weinidog Lloegr yn defnyddio’r gair ‘gangiau’ wrth ddisgrifio terfysgwyr yn y wlad,” meddai llysgennad Syria i’r Cenhedloedd Unedig, Bashar Ja’afarim, wrth newyddiadurwyr.

“Dydyn nhw ddim yn caniatáu i ni ddefnyddio’r un gair er mwyn disgrifio’r grwpiau arfog a’r terfysgwyr yn ein gwlad ni. Mae’n rhagrithiol ac yn drahaus.

“Rydyn ni’n dioddef o’r un problemau ag yn Llundain, Birmingham a Bryste ond yn llawer gwaeth.”

Dywedodd llysgennad Prydain, Philip Parham, fod cymhariaeth Bashar Ja’afarim yn un “absẃrd”.

Roedd llywodraeth Prydain wedi ymateb i’r terfysg mewn modd “cymedrol, pwyllgor, gan gymryd camau cyfreithiol, tryloyw er mwyn adfer y drefn”.

“Yn Syria mae miloedd o ddinasyddion sydd heb eu harfogi yn cael eu lladd,” meddai. “Mae tua 2,000 o ddinasyddion wedi eu lladd erbyn hyn.”

Tarodd Bashar Ja’afarim yn ôl gan ddweud fod Ewrop yn ceisio “newid y gwirionedd” am Syria, “heb gyfeirio at y cynnydd pwysig sydd wedi ei wneud yn fy ngwlad”.