Poster y ffair
Mae tri o bobol wedi marw ar ôl cael eu taflu o reid mewn ffair pentref yng nghanolbarth Sbaen.

Dywedodd gweinyddiaeth fewnol rhanbarth Castilla-La Mancha fod tri pherson ifanc wedi marw ac un arall wedi ei anafu yn y ddamwain ym mhentref Villacanas.

Yn ôl adroddiadau digwyddodd y trychineb at reid o’r enw ‘Y Tarantiwla’. Holltodd un o ‘freichiau’ y reid yn ddau ran, meddai’r heddlu.

Mae Villacanas yn bentref o 9,000 o bobol tua 50 milltir o’r brifddinas ranbarthol Toledo.

Digwyddodd y trychineb ar noson gyntaf y fiesta yn Villacanas.