Fe fu farw peiriannydd 51 oed mewn canolfan profi awyrennau yn Seland Newydd ar ôl cael ei lyncu gan injan yno.

Dywedodd cwmni Air New Zealand fod y dyn yn gweithio ar injan Lockheed C-130 Hercules ym maes awyr Woodbourne yn Blenheim pan gafodd ei sugno i mewn.

Yn ôl llefarydd ar ran Air New Zealand doedd yna ddim llafnau ar yr injan a doedd hi ddim yn rhan o’r awyren ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Tasman, Barbara Dunn, fod y gwasanaethau brys wedi ceisio achub y dyn ond wedi methu.

Roedd y dyn yn gweithio i Safe Air, un o is-gwmnïau Air New Zealand.