Fe fu farw dyn 74 oed heddiw ar ôl iddo gael ei daro gan darw yn ystod gŵyl haf tref yn Sbaen.

Dywedodd Isabel Munoz, llefarydd ar ran llywodraeth rhanbarth gogleddol Navarra, fod y dyn wedi ei ladd ddechrau’r bore yn nhref Lodosa.

Cafodd y dyn ei daro gan y creadur a oedd wedi ffoi o lwybr rhediad teirw yr ŵyl ac i mewn i stryd ochor.

Nid oedd yn amlwg a oedd y dyn wedi bod yn cymryd rhan yn y rhediad.

Cafodd un person arall ei anafu ac aethpwyd ag ef i ysbyty gerllaw.

Mae rhyddhau teirw gwyllt yn rhan boblogaidd o wyliau trefol yn y wlad.