Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod
Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn edrych eto ar eu prisiau ar ôl derbyn mwy o gwynion nag arfer am gost yr ŵyl.
Roedd y Cyfarwyddwr, Elfed Roberts, yn cydnabod bod y codiad pris eleni’n sylweddol ond bod y cynnydd mewn Treth Ar Werth wedi ychwanegu at y problemau.
Gyda thocyn dydd cyffredin heddiw’n £17 a hyd yn oed plant dan 12 yn gorfod talu £5, mae nifer sylweddol o bobol wedi cwyno am y costau.
Neithiwr hefyd, roedd y dyrfa yn un o’r prif gyngherddau, Clasuron Pop, yn siomedig gyda dim ond tua 1,000 o bobol yn y Pafiliwn. Roedd y tocyn rhata’n costio £27.
Heddiw, fe gadarnhaodd Elfed Roberts y bydden nhw’n edrych ar y patrwm prisio – mae hynny’n digwydd bob blwyddyn ond roedd yn cydnabod y byddai angen ystyried y mater yn fwy dwys eleni.
‘Dim ateb hawdd’
Mae wedi gofyn i staff yr Eisteddfod holi pobol ar y Maes i gael eu barn, ond fe rybuddiodd na fyddai cael ateb boddhaol yn hawdd.
“Mae costau popeth wedi codi,” meddai. “Rydan ni’n gorfod cludo popeth yma ac mae pris tanwydd wedi ein taro ni’n galed.
“Os ydan ni’n cynnig gostyngiad i rai mae’n rhaid trio bod yn deg efo pawb. Ond rydan ni’n gwybod fod gan bobol lai yn eu pocedi i’w wario.”
Roedd hynny wedi dod i’r amlwg ers rhai misoedd ym mhatrwm gwerthiant y tocynnau nos ond roedd cyngherddau mawr wedi gweithio yn y gorffennol, ac roedden nhw hefyd yn gallu cael eu gwerthu i deledu.