Crëwr Coron Wrecsam a'r Bardd Arobryn
Roedd y dagrau’n “powlio i lawr” wrth i grëwr Coron Wrecsam wylio Geraint Lloyd Owen yn esgyn i lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw i dderbyn ei Goron.
Yn ôl John Price, sy’n ffrind agos i’r enillydd ers bron i hanner can mlynedd, “mae’n brofiad arbennig i weld eich coron am ben rhywun sy’n gyfaill i chi”.
Mae’r ddau wedi bod yn gyfeillion agos ers iddyn nhw gyd-weithio yn ysgol Uwchradd Machynlleth yn 1963, ac maen nhw wedi cadw cysylltiad agos ers hynny.
Roedd ennill coron gan John Price yn rhan o’r “nod” wrth gystadlu eleni, meddai Geraint Lloyd Owen, ac fe ddywedodd John Price wrth ei hen gyfaill bythefnos yn ôl “ei bod hi’n bryd iddo ennill rhywbeth o sylwedd!”
‘Gobeithio ers blynyddoedd’
Roedd ennill y goron eleni yn brofiad anodd iawn ei ddiffinio, yn ôl Geraint Lloyd Owen, sy’n dweud iddo ddod yn agos iawn ati ddeng mlynedd yn ôl pan oedd un beirniad o blaid rhoi’r goron iddo.
“Roeddwn i wedi breuddwydio… wedi goebithio ers blynyddoedd,” meddai wedi’r seremoni.
Ond pan ddaeth y llythr yn ei longyfarch am ennill gyda’i gerddi ar y testun Gwythiennau, dywedodd ei fod wedi ymateb yn syndod o ddi-gynnwrf i’r newyddion.
“Fe gadwais i’r cwbwl oddi wrth y wraig a’r plant am dair wythnos,” meddai, gan fynnu nad oedd y gyfrinach yn gwasgu arno o gwbwl, hyd yn oed pan ddaeth John Price ato bythefnos yn ôl a dweud y byddai’n braf gweld coron Wrecsam ar ei ben.
‘Trengi Cymdeithasol’
Dirywiad cymdeithas, iaith, diwylliant a chrefydd yw rhai o’r testunau sydd wrth wraidd y gwaith buddugol eleni, medd y prifardd o Benllyn, gyda choeden deulu wedi ei fframio ar wal y gegin yn gychwyn ar y cyfan.
“Mae’r achau teuluol yn croesi ei gilydd i gyd,” meddai, “fel gwythiennau.”
Roedd cystadleuaeth y goron eleni yn gofyn am ddilyniant o gerddi digynghanedd ar y testun ‘Gwythiennau’.
Mae’r casgliad yn agor gyda’r gerdd i’r goeden deulu ar fur y gegin – ‘Gardd Achau’ – sy’n esbonio’r cyffro y mae’n ei deimlo o fedru profi ei fod yn perthyn.
Ond dydi’r gwythiennau ddim yn cynnig boddhad bob tro, ac mae’n gweld gwythiennau cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol a ieithyddol yn gwanhau.
“Ma’r gwythienne yn crebachu a ceulo oherwydd dyn,” meddai, wrth drafod ei ymateb i destun y gystadleuaeth.
“Ry’n ni’n gwneud llanast o’r trysor bendigedig sydd gynnon ni – y byd.”
Mae’r gerdd ‘Siop’ yn esbonio peth o’r gred hyn – ynddo mae’n disgrifio diflaniad y gymdeithas a’r gymwynas oedd yn tyfu o gwmpas siop bentref, lle byddai dyledion yn cael eu hesgusodi mewn ambell achos o angen – “Cyn i Tesco, Asda, Morrisons a’u tebyg/ gau drws trugaredd yn glep.”
Ond ar y llaw arall mae’r prifardd yn dweud bod angen i gapeli symud gyda’r oes os ydyn nhw am oroesi.
“’Da ni’n glynnu wrth ddoe yn rhy hir,” meddai.
Mae’n beirniadu’r rhai sy’n gwrthod symud gyda’r oes am wacter capeli’r oes hon, yn y gerdd ‘Capel’:
a hen ddynion styfnig yn mulo
rhwng llorpiau confensiwn eu cred
ac yn cydio wrth grefydd
fel mwsogl ar gerrig.
“Rhaid i ni symud ymlaen efo’r oes,” meddai Geraint Lloyd Owen, oedd yn dweud mai mynd i ddathlu yn y garafan oedd ei gam nesaf.