Geraint Lloyd Owen
Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd ger Caernarfon yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, 2011.

Gyda 36 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth eleni, O’r Tir Du ddaeth i’r brig am ei ddilyniant o gerddi digynghanedd heb fod dros 200 llinell ar y testun ‘Gwythiennau’.

Mae’n frawd i’r Prifardd Gerallt Lloyd Owen.

Dywedodd ennill y Goron yn Wrecsam eleni yn gwireddu gobaith ei fam iddo ennill Coron y Genedlaethol.

Ni chafodd hi ei weld yn derbyn yr anrhydedd  gan y bu farw union ddwy flynedd ar hugain yn ôl.

“Hi yn anad neb sy’n gyfrifol fod y Goron hon ar fy mhen,” meddai Geraint Lloyd Owen.

“Symbyliad arall yw fod gennyf frawd bach, a fagwyd ar yr un aelwyd ddiwylliedig ac yn sŵn barddoniaeth a barddoni a’r Pethe.

“Brawd bach, sydd yn Brifardd ddwywaith. Ac mae’r hen air yn hollol wir, ‘Haearn a hoga haearn’. Do, mi fu rhwbio’n ein gilydd yn symbyliad.”

“Cerddi am ardal Gymraeg, yn bennaf, a’r hyn sy’n digwydd i wythiennau ei bodolaeth – a bodolaeth ar raddfa ehangach – ydi pwnc yr ymgeisydd hwn,” meddai Gwyn Thomas ar ran ei gyd feirniaid, Nesta Wyn Jones ac Alan Llwyd.

“ Y mae yma sôn am ddirywiad mewn ardal, a hefyd sôn am ddifetha ar gynfas eang. Yn y gerdd olaf un cyferchir ‘plentyn ein hyfory’ gennym ‘ni’ sydd wedi creu hafoc o bethau.

“Y mae cymaint â hyn o eiriau’n awgrymu natur alarus y dilyniant. Ond y mae hyn oll yn cael ei gyfleu – gyda chyfeiriadau at rai enghreifftiau o ogoniant bywyd – yn rymus iawn, yn fedrus iawn, yn eglur, ac yn dra diddorol.”

Cefndir y Prifardd

Ganed Geraint ar fferm Tŷ Uchaf rhwng Llandderfel a’r Sarnau ym Mhenllyn, Meirionnydd, cyn i’r teulu symud i hen gartref ei fam, sef y siop ym mhentre’r Sarnau.

Fe’i haddysgwyd yn yr ysgol bentref ac yn Ysgol Tŷ-tan-domen, y Bala, ac yng Ngholeg yr Heath, Caerdydd, lle y bu’n hyfforddi fel athro.

Bu’n athro yn Ysgol Uwchradd Machynlleth, a thra yno daeth yn ffrinidiau mawr gyda John Price a oedd hefyd ar y staff.

John yw cynllunydd a gwneuthurwr y Goron eleni, a dywed Geraint ei bod yn fraint cael gwisgo coron Wrecsam oherwydd hyn.

Yn dilyn ei gyfnod ym Machynlleth, bu’n dysgu yn y Drenewydd, Corwen, Pont y Gof (Botwnnog), a bu’n bennaeth Ysgol y Ffôr, Pwllheli, ac Ysgol Treferthyr, Cricieth, cyn iddo ymddeol yn gynnar.

Yna, bu’n berchennog ar Siop y Pentan yng Nghaernarfon, ac erbyn hyn, mae’n Bennaeth Cyhoeddi i Wasg y Bwthyn yn y dref.

Mae’n enillydd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys cadeiriau Pontrhydfendigaid, Llanbedr Pont Steffan, Gŵyl Fawr Aberteifi, Powys ac Urdd Gobaith Cymru.

Bu’n arwain yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn feirniad adrodd ynddi nifer o weithiau a bu ei barti adrodd, Lleisiau Llifon, yn fuddugol sawl gwaith. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd yr Orsedd o dan yr enw Geraint Llifon.

Mae Geraint yn briod ag Iola ac mae ganddynt dair o ferched sef Ffion, Elliw ac Awen Llwyd. Mae’n daid i Steffan ac Erin Llwyd.

Y gwaith

Cefndir y gwaith yw fod ganddo ardd achau fawr ar fur cegin ei gartref, ac mai Bob Owen, Croesor, fu’n gyfrifol am y gwaith ymchwil teuluol.

Bydd yn edrych arni adeg prydau bwyd gyda balchder gan y gall ddilyn yr ach yn ôl i neb llai na Llywarch Hen yn  y 6ed Ganrif.

Wrth edrych ar y llinellau’n yr ardd achau hon, yn orweddol a fertigol, meddyliodd pa mor debyg i wythïennau yr oedden nhw- y naill yn arwain i’r llall, a bod nifer o bethau yn yr ardd achau’n clymu pobl ynghyd, a sut y gall lle ac amgylchiadau ddylanwadu ar bawb.

Y Goron

Eleni, rhoddwyd y Goron a’r wobr o £750 gan Brif Gyfrinfa Gogledd Cymru, ac fe’i cynlluniwyd gan John Price o Fachynlleth. Dyma’r bedwaredd Goron i’w chreu ganddo, gan ei fod eisoes wedi creu Coronau 1997, 2001 a 2003.

Mae’r Goron yn cyfuno ardal Wrecsam a’r Fro a dathliadau canmlwyddiant a hanner y Brifwyl. Mae band y Goron yn cynrychioli un o safleoedd treftadaeth y byd, pont ddŵr Pontcysyllte.

Mae’r cynllunydd yn cymharu’r bont gyda’r Eisteddfod, gan ddatgan bod y Brifwyl yn gyfle i greu pontydd rhwng wahanol sefydliadau, rhwng siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg, ynghyd â’r rheini sydd wedi symud i’r ardal i fyw.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar dir Fferm Bers Isaf, Wrecsam tan 6 Awst.  Am ragor o fanylion ewch i www.eisteddfod.org.uk.