Yr Archdderwydd
Mae’r Archdderwydd T James Jones wedi dweud fod y wasg yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn parhad democratiaeth yn ei wlad.
Dywedodd fod darlledwyr gan gynnwys S4C yn hollbwysig i’r genedl, ond fod hefyd angen sicrhau parhad y wasg dyddiol gan gynnwys papurau newydd Saesneg sydd dan fygythiad.
Ychwanegodd y gallai fod angen papur newydd dyddiol Cymraeg gan ddweud nad oedd y diwydiant hysbysebu wedi bod yn fodlon buddsoddi mewn gwefannau newyddion ar-lein.
“Ar hyn o bryd, pe digwyddai i’r wasg ddyddiol Gymreig ddiflannu, byddai’n amhosib i lywodraeth Cymru weithredu’n ddemocrataidd,” meddai yn ei araith o’r Maen Llog.
“Gyda dyfodiad y pwerau deddfu newydd mae hi’n hollbwysig i ni wybod o ddydd i ddydd am weithgarwch y Senedd, fel y gallwn gymryd rhan yn y broses o ddeddfu a llywodraethu.
“Heb wasg ddyddiol, byddai ein llywodraeth yn siarad â neb ond â hi’i hunan.”
‘Dim sylw’
Dywedodd ar Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam, tref sydd ar y ffin gyda Lloegr, mae “eithriad” yw hi i Gymru gael unrhyw sylw yng ngwasg y wlad honno.
“Gwaetha’r modd, er ein bod heddiw yng nghanol proses adeiladol datganoli ac wedi ennill buddugoliaeth ryfeddol yn refferendwm y pwerau deddfu, eithriad yw hi i Loegr roi unrhyw sylw i Gymru fel gwlad ar wahân,” meddai.
“Dro ar ôl tro, ar raglenni newyddion y teledu a’r radio o Lundain, mae’r mwyafrif llethol o’r eitemau yn anwybyddu bodolaeth Cymru fel gwlad. Ac mae’r un peth yn wir am y wasg ddyddiol o Lundain.
“Ond nid y sarhad hwnnw a ddylai ein blino’n bennaf heddiw. Yn hinsawdd y dirwasgiad mae’r gwasanaethau radio a theledu a gynhyrchir yng Nghymru i gyd o dan fygythiad toriadau llym.
“Mae’r frwydr i gadw annibyniaeth S4C yn un dyngedfennol, yn ogystal â’r angen i ddiogelu gwasanaethau teledu a radio’r BBC a’r Awdurdod Teledu Annibynnol yng Nghymru.
“Ond mae’r wasg ddyddiol Gymreig hefyd o dan yr un bygythiad. Beth os daw’r wasg ddyddiol honno i ben? Gwn y bu’r Western Mail a’r Daily Post yn destunau sbort a dychan cyson yn y gorffennol. Ond mater arall fyddai chwerthin yn eu hangladdau.
“Ymhle arall y rhoir sylw dyddiol i Gymru fel gwlad ar wahân? Mae’n siwr y byddai llawer yn dadlau y dylai’r we gymryd eu lle. Ond o ble y daw’r adnoddau ariannol i alluogi’r we i gyflawni hynny? Nid yw’r diwydiant hysbysebu wedi dilyn y papurau o’r copi caled i’r sgrin.
“Mae hi’n hen bryd i lywodraeth Cymru, ynghyd ag aelodau Cymreig San Steffan wynebu’r tebygolrwydd y bydd ein Senedd yn methu â chyfathrebu â phobol Cymru.
“A phan wneir hynny, dylid hefyd ailgodi’r angen am wasg ddyddiol yn yr iaith Gymraeg. Os daw’r rheidrwydd i greu papur dyddiol Cymreig Saesneg newydd, dylid sicrhau datblygiad tebyg yn y Gymraeg.”
Yr araith gyfan
Bu farw’r Cyn-archdderwydd Geraint, a chydymdeimlwn â’i weddw Zonia a’r teulu yn eu hiraeth. Bu Geraint yn lladmerydd tu hwnt o frwd ar ran Yr Orsedd. Ar y cyd â Zonia ysgrifennodd ei hanes hi. Enillodd y Gadair am ganu clasur o awdl – Awdl Foliant i’r Amaethwr. Am flynyddoedd, ei gywydd ef a genid i gyfarch bardd y Goron. Bu’n feirniad llenyddol craff a chytbwys ac yn arweinydd arloesol ym myd addysg . Carodd ei genedl a’r Gymraeg yn angerddol. Bu’n amlwg yn y frwydr yn erbyn sgileffeithiau gwastraff ynni niwcliar. Fe’i cofir fel archdderwydd a feddai’r dewrder i fynegi’i farn yn gwbwl onest, yn grefyddol ac yn wleidyddol. Y deyrnged orau y gallwn ninnau ei thalu iddo yw ceisio, yn wylaidd, ddilyn ei esiampl.
Ddechrau mis Gorffennaf eleni, cefais y fraint o fod mewn seremoni arbennig mewn pentre o’r enw Kimbolton ym mherfeddion Lloegr; seremoni dadorchuddio cofeb i neb llai na Waldo Williams. Mae’r gofeb i’w gweld ar wal yr ysgol y bu Waldo’n dysgu Lladin ynddi am ryw flwyddyn ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, cyfnod a oedd mor arteithiol iddo, ar ôl marw annhymig ei wraig, Linda.
Roedd hwnnw hefyd yn gyfnod dolurus iddo fel cenedlaetholwr a heddychwr am fod llywodraeth Prydain Fawr yn bygwth dwgyd cannoedd o aceri ar fynyddoedd Y Preseli fel lle i’w byddin ymarfer rhyfela. Pan oedd Waldo ym mhellter gwastadeddau Lloegr y canodd e’r gerdd ‘Preselau’; ynddi datganodd, yn gwbwl onest, y dylid cadw mur ei febyd rhag ei ddwgyd gan fwystfil militariaeth.
Gosodwyd cofeb i Waldo yn Kimbolton oherwydd i rai Saeson diwylliedig ddewis cadw’r cof am fardd o Gymro. Ond fel y mae pethau rhwng Cymru a Lloegr y dyddiau hyn, eithriad prin yw digwyddiad tebyg i’r un yn Kimbolton gan fod Lloegr fel arfer yn dewis ein hanwybyddu.
Yn ddiweddar, arddangoswyd yn amgueddfa Sain Ffagan gopi gwreiddiol o ddeddf 1536, y ddeddf a barodd i Gymru fod yn rhan o Loegr a’i rhwystro rhag bod yn wlad ar wahân. A gwaetha’r modd, er ein bod heddiw yng nghanol proses adeiladol datganoli ac wedi ennill buddugoliaeth ryfeddol yn refferendwm y pwerau deddfu, eithriad yw hi i Loegr roi unrhyw sylw i Gymru fel gwlad ar wahân. Dro ar ôl tro, ar raglenni newyddion y teledu a’r radio o Lundain, mae’r mwyafrif llethol o’r eitemau yn anwybyddu bodolaeth Cymru fel gwlad. Ac mae’r un peth yn wir am y wasg ddyddiol o Lundain.
Ond nid y sarhad hwnnw a ddylai ein blino’n bennaf heddiw. Yn hinsawdd y dirwasgiad mae’r gwasanaethau radio a theledu a gynhyrchir yng Nghymru i gyd o dan fygythiad toriadau llym. Mae’r frwydr i gadw annibyniaeth S4C yn un dyngedfennol, yn ogystal â’r angen i ddiogelu gwasanaethau teledu a radio’r BBC a’r Awdurdod Teledu Annibynnol yng Nghymru.
Ond mae’r wasg ddyddiol Gymreig hefyd o dan yr un bygythiad. Beth os daw’r wasg ddyddiol honno i ben? Gwn y bu’r Western Mail a’r Daily Post yn destunau sbort a dychan cyson yn y gorffennol. Ond mater arall fyddai chwerthin yn eu hangladdau. Ymhle arall y rhoir sylw dyddiol i Gymru fel gwlad ar wahân? Mae’n siwr y byddai llawer yn dadlau y dylai’r we gymryd eu lle. Ond o ble y daw’r adnoddau ariannol i alluogi’r we i gyflawni hynny? Nid yw’r diwydiant hysbysebu wedi dilyn y papurau o’r copi caled i’r sgrin.
Ar hyn o bryd, pe digwyddai i’r wasg ddyddiol Gymreig ddiflannu, byddai’n amhosib i lywodraeth Cymru weithredu’n ddemocrataidd. Gyda dyfodiad y pwerau deddfu newydd mae hi’n hollbwysig i ni wybod o ddydd i ddydd am weithgarwch y Senedd, fel y gallwn gymryd rhan yn y broses o ddeddfu a llywodraethu.
Heb wasg ddyddiol, byddai ein llywodraeth yn siarad â neb ond â hi’i hunan.
Mae hi’n hen bryd i lywodraeth Cymru, ynghyd ag aelodau Cymreig San Steffan wynebu’r tebygolrwydd y bydd ein Senedd yn methu â chyfathrebu â phobol Cymru. A phan wneir hynny, dylid hefyd ailgodi’r angen am wasg ddyddiol yn yr iaith Gymraeg. Os daw’r rheidrwydd i greu papur dyddiol Cymreig Saesneg newydd, dylid sicrhau datblygiad tebyg yn y Gymraeg.
Yn y cyfamser, rwy’n estyn i chi groeso’r Orsedd i fwynhau wythnos o ŵyl hapus yn Wrecsam. Ac er gwaethaf ein pryderon, y mae gennym lawer i’w ddathlu. Unwaith eto dyma ni mewn eisteddfod ar y ffin yn dathlu llwyddiant rhyfeddol twf yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, ynghyd â brwdfrydedd dosbarthiadau dysgwyr yr iaith Gymraeg. Dathlwn hefyd fod enw Owain Glyndŵr i’w glywed bellach gyn belled â Tsiena, Rwsia a Fietnam gan fod Prifysgol Glyndŵr yn chwifio’i baner ledled daear yn ogystal ag yn chwarae’i rhan yn adfywiad y Gymraeg yn Wrecsam a’r fro.
Ac wrth gloi rhaid i mi grybwyll materion pwysig eraill. A chofio pwy yw Ceidwad ein Cledd, dymunwn y gorau i dîm rygbi Cymru ddydd Sadwrn nesaf. A’n dymuniadau da hefyd yn nhymor newydd y gêm bêl-droed i Abertawe a Chaerdydd ac wrth gwrs i Wrecsam!