Mari Thomas
Fe fyddai’r hen Eisteddfodwyr yn troi yn eu beddau wrth i’r Brifwyl godi arian trwy gasgliad o dlysau sydd wedi eu hysbrydoli gan swigod siampên.
Maen nhw’n cael eu creu i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern yn 150 oed a’r bwriad yw eu bod yn anrhegion ar gyfer dathliadau o bob math.
“Wnes i eu cynllunio nhw gyda gwydr yn un llaw a phensil yn y llall,” medda’r tlysydd Mari Thomas, sydd wedi creu’r tlysau ar batrwm swigod bach o’r diod dathlu.
Ar bob un o’r bybls, mae wedi ysgythru gair Cymraeg sy’n ymwneud â dathlu, fel ‘arbennig’, ‘hapusrwydd’ a ‘cariad’.
Fe fydd cyfran o’r pris gwerthu’n mynd i goffrau’r Eisteddfod, meddai Mari Thomas, sydd wedi cynllunio dwy o goronau’r Brifwyl ac wedi ennill y Fedal Aur am Grefft.
“Yn ogystal â dathlu 150 mlynedd, mae’n symud ymlaen hefyd,” meddai’r grefftwraig sy’n gweithio yn yr Eglwys Norwyaidd yn Abertawe. “Ac mae’r tlysau’n addas ar gyfer pawb sy’n dathlu.”
Fe fydd achlysur ar wahân yn cael ei gynnal yn yr hydref i lansio’r casgliad yn swyddogol.