Yn y pumed dyfyniad yn ein cyfres o’r gyfrol ‘Mâs o Mâ’ mae Meic Stevens yn disgrifio diwedd ei berthynas â’r gantores…
Penmon
Roedd gweithio gyda Lleuwen yn llai blinedig, ac yn brofiad pleserus. Yn ddiweddarach es yn ôl i ogledd Cymru i wneud ail gymysgiad ac aros gyda Lleuwen ym Mhenmon.
Roedd gan ei thŷ olygfa fendigedig dros y Fenai trwy ffenestri pictiwr anferth ac roedd y lle’n llawn llyfre, offerynne cerdd a recordie – rhai jazz gan mwya.
Roedd ein perthynasni wedi’i seilio ar gerddoriaeth hardd, cerddoriaeth gefndir.Roedd hi newydd ddarganfod Back to Black Amy Winehouse, a hefyd cantores o Lydaw, Nolwenn Korbell, ro’n i’n gyfarwydd â hi gan fod ei theulu’n ganwyr gwerin enwog.
Bu Nolwenn, cantores bert, yn caru gyda Twm Morys sy’n arwain y band gwerin Cymraeg, Bob Delyn a’r Ebillion. Mae ganddyn nhw fachgen bach hyfryd. Ond mynd i’r gwellt wnaeth eu perthynas yn anffodus.
Roedd Lleuwen yn brysur yn chware gigs o gwmpas Cymru ac yn Llunden. Roedd ganddi slot perfformio mewn gwesty yn Llandudno hefyd a phianydd yn cyfeilio iddi ar biano cyngerdd. Es yno un noson ac roedd hi’n gamstar ar hynny hefyd! Roedd y Chardonnay yn hyfryd hefyd, os cofiai’n iawn!
Gretna Green
Roedd Lleuwen yn fy ngadael ar ben fy hunaneitha tipyn. Dwi’n credu ei bod hi’n camddeall a chamddefnyddio’r geirie ‘cariad’ a ‘caru’.
Mae hi’n fyrbwyll iawn: un bore ym Mhenmon deffrodd fi a dweud yn llawn cyffro, “Gad i ni briodi”. Ro’n i jystâ mynd drwy’r to! Roedd hi isie codi’n syth, gwisgo, a gyrru i Gretna Green yn yr Alban i briodi yn yr hen efail.
“Sdim rhaid mynd i Gretna Green dyddie ’ma,” meddwn i. Isie’r ddrama roedd hi ond do’n i ddim yn meddwl y bydde ’ny’n ddramatig iawn – gyrru i dre ddi-nod yn Iseldir yr Alban mewn car Smart…
Y diwedd
Doedd hi ddim yn hoffi i fi fynd i’w gigs hi. Ro’n i’n teimlo fel rhyw hen ddyn yn llechu yn y cysgodion a hithau’n promenadio fel prima donna o un sbotole i’r llall.
Roedd y daith ar ben, canodd y rhybudd yn fy mhen a daeth synnwyr cyffredin yn ôl. Ro’n i wedi bod drwy hyn o’r blân, gyda Gwenllian, ac roedd hynny wedi torri ’nghalon!
Ym Mhenmon y treuliwn i’r rhan fwya o’r amser, yn aros am Lleuwen oedd erbyn hyn wedi bachu swydd gyda Menter Môn, un o fentrau’r pwyllgor addysg lleol, i ddysgu cerddoriaeth fodern i sêr ifainc.
Byddai’n mynd o gwmpas ysgolion yn annog cryts i ddial ar eu hofferynne cerdd bach diniwed. Ro’n i’n dal i weithio ar yr albwm Saesneg ond doedd fawr o hwyl ar bethe.
Roedd fy meddwl i’n bell – diawl o beth yw bod yn ddryslyd a’r teimlade’n gymysg i gydyn fy oedran i. Mae poen corfforol yn haws o lawer i ddelio ag e.
Fi, wrth reswm, oedd wedi claddu twll i fi fy hunan. Ddylwn i ddim fod wedi mynd i’r gwely gyda hi yn y lle cynta, heb sôn am gyd-fyw! Roedd y ddau ohonon ni’n cwmpo mas fwyfwy o hyd, a’r un ohonon ni’n hoff o wrthdaro a dadle, yn enwedig hi.
Drama queen oedd hi, yn gwneud ei gore glas i osgoi unrhyw wrthdaro. Roedd hi’n dal i fynnu ei bod hi mewn cariad â fi ond, yn y dirgel, cynllunio i’w gwadnu hi am Lydaw ar arian nawdd Cyngor y Celfyddydau roedd hi.
Felly, yn y diwedd, dyma gytuno’n gyfeillgar fod ein carwriaeth yn mynd i’r gwellt a bod rhaid iddi ffeindio cariad arall – Llydawr iau na fi. Dyna oedd y cadarnhad roedd ei angen arni, gwbod ei bod hi’n rhydd a mod i’n rhoi sêl bendith iddi ffwrcho pwy bynnag oedd hi moyn.
Mae ‘Mâs o Mâ’ yn cael ei lansio yn mhabell Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 2pm ddydd Iau nesaf, 4 Awst. Gallwch brynu’r gyfrol o wefan Y Lolfa.
Bydd y dyfyniad olaf yn ein cyfres o’r gyfrol ym ymddangos ar Golwg360.com yfory.