Elfed Roberts
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud eu bod nhw’n fodlon iawn gyda phenwythnos cyntaf Eisteddfod Wrecsam a’r Fro.

Erbyn diwedd dydd Sul, roedd 36,261 o bobl wedi ymweld â’r Maes ar dir Fferm Bers Isaf yn nhref Wrecsam, ac meddai Prif Weithredwr y Brifwyl, Elfed Roberts.

Roedd 16,794 wedi ymweld ddoe, mwy na’r 15,292 yn 2009 a’r 13,072 yn 2008. Roedd yn llai na’r 25,097 ym Mlaenau Gwent y llynedd, ond bryd hynny caniatawyd mynediad am ddim i bobol leol.

Mae disgwyl glaw mân heddiw ond ysbeidiau heulog am weddill yr wythnos.

“Rydym yn hynod fodlon gyda’r ymateb cychwynnol i’r Eisteddfod yma yn Wrecsam,” meddai.

“Mae’r ffigyrau ymwelwyr yn bositif iawn, ac yn uwch na’r cyfnod hwn am y rhan fwyaf o’r blynyddoedd diwethaf sy’n galonogol iawn.

“Yn ddi-os, mae’r cynllun dau am un ar gyfer pobl ardal Wrecsam wedi cyfrannu i hyn.  Cawsom gyfraniad gan Lywodraeth Cymru i’n galluogi i gynnig 2500 o docynnau dau am bris un yma yn Wrecsam eleni, a phenderfynodd yr Eisteddfod ei hun ychwanegu at y nifer hwn.

“Erbyn y dydddiad cau, roedd 4500 o docynnau dau am bris un wedi’u dosbarthu i bobl leol.”

Diolchodd Elfen Roberts i’r rheini fu’n “gweithio mor galed er mwyn rhoi’r Eiseddfod at ei gilydd, yn paratoi’r Maes ac yma am gyfnod o fisoedd cyn i’r ymwelwyr ein cyrraedd”.

“Mae creu Maes yr Eisteddfod yn dipyn o waith a mawr yw ein diolch ni iddyn nhw oll,” meddai.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr.  Byddai’n amhosibl i dîm bychan yr Eisteddfod weithredu heb gymorth ein stiwardiaid a phawb sy’n gwirfoddoli i’n helpu ni yn ystod yr wythnos, ac felly diolch yn fawr iddynt hwythau.”

Heddiw cynhelir Seremoni’r Coroni, Prif Seremoni gyntaf yr wythnos, yn y Pafiliwn am 16.30.

Am fanylion tocynnau ewch i www.eisteddfod.org.uk neu ffoniwch 0845 4090 800, neu ewch i’r swyddfa docynnau yn y Ganolfan Groeso a Mynedfa 2.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar dir Fferm Bers Isaf nes dydd Sadwrn 6 Awst eleni.