Mae newyddiadurwyr y BBC yn cynnal ail streic 24 awr er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd â diswyddiadau gorfodol y gorfforaeth.

Mae disgwyl y gallai gwasanaethau newyddion S4C, Radio Cymru ac ar-lein gael eu cwtogi o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol.

Rhaglen Today Radio 4 oedd y cyntaf i gael ei effeithio – dechreuodd awr yn hwyrach na’r arfer, am 7am.

Dywedodd undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, bod 3,000 o aelodau wedi ymuno â’r streic a bod pecedwyr y tu allan i ganolfannau’r BBC ar draws Prydain.

Diswyddiadau

Mewn e-bost at staff dywedodd Lucy Adams, cyfarwyddwr busnes y BBC, na ddylai gweithwyr yr NUJ gael eu trin yn wahanol i weithwyr eraill y gorfforaeth.

Roedden nhw wedi methu a chytuno na ddylai aelodau’r undeb orfod wynebu diswyddo gorfodol, meddai.

“Rydym yn siomedig bod Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn bwriadu mynd ar streic, ac rydym yn ymddiheuro i’n cynulleidfa os bydd hyn yn tarfu ar wasanaethau mewn unrhyw ffordd,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360.

Dywedodd yr NUJ fod y BBC yn “gwrthod trafod er mwyn dod o hyd i ateb teg”.

“Maen nhw’n gwastraffu miloedd o bunnoedd drwy ddiswyddo gweithwyr medrus a phrofiadol yn hytrach na’i adleoli,” medden nhw.

Maen nhw eisiau i’r gorfforaeth ddod o hyd i swyddi eraill i’r rheini sy’n colli eu swyddi mewn adrannau eraill.

Dywedodd y BBC eu bod nhw’n torri 387 o swyddi newyddiadurwyr, ac y byddai tua 100 o’r rheini yn ddiswyddiadau gorfodol.

Torri swyddi

Daw’r gweithredu diwydiannol heddiw ar ôl streic 24 awr o hyd ar 15 Mehefin. Bryd hynny bu’n rhaid i Radio Cymru ailddarlledu rhaglenni yn lle’r newyddion ac roedd rhaglen Newyddion y BBC ar gyfer S4C yn bum munud o hir, yn hytrach na’r hanner awr arferol.

Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref y byddai yn rhaid i BBC ariannu cyfran o Wasanaeth y Byd ac S4C, yn ogystal â rhewi’r drwydded teledu.