Arlywydd Syria, Bashar Assad
Mae byddin Syria wedi ymosod ar ganol dinas Hama heddiw, gan ladd o leia’ 23 o bobol.

Mae llefarydd ar ran y Pwyllgorau Cydlynu Lleol, sy’n trefnu protestiadau yn erbyn y llywodraeth yn y wlad, wedi enwi 23 o bobol gyffredin sydd wedi marw. Mae’n dweud bod nifer yr holl bobol sydd wedi eu lladd yn debygol o fod gryn dipyn yn uwch, a bod ysbytai yn llawn o bobol wedi eu hanafu.

“Fe ddaeth milwyr i Hama ar doriad gwawr heddiw,” meddai un o drigolion y ddinas wrth un o newyddiadurwyr asiantaeth yr Associated Press. “Fe gawson ni ein deffro gan hyn, ac fe fuon nhw’n tanio’u gynnau ar hap, ac mae yna nifer wedi eu hanafu.”

Mae cyfanswm o tua 1.600 o bobol gyffredin wedi marw yn ystod ymosodiadau’r llywodraeth yn dilyn protestiadau mawr yn erbyn cyfundrefn yr Arlywydd Bashar Assad ers dros bedwar mis..

Fe ddaeth Hama un ganolbwynt nifer o’r protestiadau. Yn gynnar ym mis Mehefin, fe saethpwyd 65 o bobol yn farw yno, ac ers hynny mae’r lle wedi cael ei reoli gan y bobol leol. Mae protestwyr wedi bod yn llenwi’r strydoedd, tra bod lluoedd y llywodraeth wedi ffurfio cylch o gwmpas y ddinas ac yn ymosod yn ystod y nos.